P-04-615
Taliad Benthyciad Teg i Fyfyrwyr yn y Flwyddyn Olaf o
Hyfforddiant
Testun y ddeiseb
Mae'r taliad i fyfyrwyr bydwreigiaeth a gofal iechyd yn y flwyddyn
olaf wedi'i ostwng yn sylweddol, gan nad yw'n cymryd i ystyriaeth
yr wythnosau ychwanegol yn astudio na'r wythnosau a dreulir mewn
lleoliad gwaith ym mis Awst. Caiff y taliad benthyciad ei ad-dalu
pan fydd y myfyriwr mewn cyflogaeth, ond mae hyn yn effeithio ar y
flwyddyn olaf o gymaint â £150 y tymor. Mae Gofal
Iechyd yn radd cwbl wahanol o ran theori a lleoliadau gwaith, ac
mae'n parhau drwy fis Awst, pan fydd cyrsiau eraill yn cael egwyl
ar gyfer gwyliau haf.
Hoffem pe bai'r system benthyciadau i fyfyrwyr yn cymryd cynnwys y
cwrs yn y drydedd flwyddyn i ystyriaeth, a bod hyn yn cael ei
adlewyrchu yn y taliadau benthyciadau a roddir i fyfyrwyr
bydwreigiaeth a myfyrwyr gofal iechyd.
Prif
ddeisebydd:
Maryanne Bray
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer y llofnodion:
47